OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 1049 (Cy. 111)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn rhagnodi amodau y mae’n rhaid i weithwyr gofal a gwahanol bersonau o ddisgrifiadau eraill eu cyflawni er mwyn cael eu diystyried at ddibenion disgowntiau’r dreth gyngor y mae adran 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn rhagnodi ar eu cyfer.
Mae rheoliad 2 yn diwygio amodau Rheoliadau 1992 fel bod gweithwyr gofal sy’n darparu gofal i berson sydd â hawl i daliad annibyniaeth y lluoedd arfog yn cyflawni’r gofynion angenrheidiol i gael eu diystyried at ddibenion adran 11 o Ddeddf 1992.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol ar y costau a’r manteision tebygol o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 1049 (Cy. 111)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013
Gwnaed 1 Mai 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Mai 2013
Yn dod i rym 24 Mai 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth
Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt)
(Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013, ac maent yn dod i rym ar 24 Mai
2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992
2. Mae paragraff 3(a) o’r Atodlen i Reoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992([3]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ar ddiwedd paragraff (iv) hepgorer “or”; a
(b) ar ôl paragraff (v) mewnosoder—
or
(vi) armed forces independence payment under the Armed Forces and Reserve Forces (Compensation Scheme) Order 2011([4]);.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
1 Mai 2013
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).